Mae ScoutsCymru yn chwilio am unigolyn profiadol i ddod yn Gadeirydd nesaf y Pwyllgor Cyllid ac Adnoddau – rôl wirfoddol strategol sydd wrth galon ein Bwrdd Ymddiriedolwyr.

Nid rheoli’r cyllid o ddydd i ddydd yw diben y rôl. Ein tîm staff profiadol sy’n gwneud hynny.

Yn hytrach, rydym yn chwilio am rywun a all ddod â goruchwyliaeth strategol, barn gadarn a her adeiladol, gan helpu i sicrhau bod ein hadnoddau’n cael eu defnyddio’n effeithiol fel y gall mwy o bobl ifanc ledled Cymru ennill sgiliau ar gyfer bywyd.

Efallai bod gennych brofiad mewn:

  • Cyllid neu gyfrifeg
  • Archwilio
  • Llywodraethu
  • Rheoli risg
  • Arweinyddiaeth fasnachol
  • Neu rôl uwch arall sy’n cynnwys goruchwyliaeth ariannol strategol

Nid yw profiad blaenorol fel ymddiriedolwr elusen yn hanfodol. Os ydych chi’n gyfforddus yn dehongli gwybodaeth ariannol, gofyn y cwestiynau cywir a helpu sefydliadau i wneud penderfyniadau gwybodus, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.

Drwy ymuno â’n Bwrdd, byddwch yn helpu i gefnogi bron i 14,000 o bobl ifanc a mwy na 4,600 o wirfoddolwyr ledled Cymru, gan sicrhau bod Sgowtio yn parhau i ffynnu am genedlaethau i ddod.

Rôl wirfoddol yw hon, gyda threuliau rhesymol yn cael eu had-dalu, a hyfforddiant a chyfnod sefydlu llawn yn cael eu darparu.

Os hoffech ddefnyddio’ch profiad i wneud gwahaniaeth parhaol, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.

Diddordeb? ​​Mae popeth sydd angen i chi ei wybod am y rôl, beth sy’n gysylltiedig â hi a sut i wneud cais yn ein pecyn gwybodaeth i ymgeiswyr.

ScoutsCymru is looking for an experienced individual to become our next Chair of the Finance and Resources Committee – a strategic volunteer role at the heart of our Board of Trustees.

This isn’t about managing the day-to-day finances. Our experienced staff team does that.

Instead, we’re looking for someone who can bring strategic oversight, sound judgement and constructive challenge, helping ensure our resources are used effectively so that more young people across Wales can gain skills for life.

You might have experience in:

  • Finance or accounting
  • Audit
  • Governance
  • Risk management
  • Commercial leadership
  • Or another senior role involving strategic financial oversight

Previous charity trustee experience isn’t essential. If you’re comfortable interpreting financial information, asking the right questions and helping organisations make informed decisions, we’d love to hear from you.

By joining our Board you’ll help support nearly 14,000 young people and more than 4,600 volunteers across Wales, ensuring Scouting continues to thrive for generations to come.

This is a voluntary role with reasonable expenses reimbursed, full induction and training provided.

If you’d like to use your experience to make a lasting difference, we’d love to hear from you.

Interested? You can find everything you need to know about the role, what’s involved and how to apply in our candidate information pack.