Cefnogi pobl ifanc i arwain hystingau cyn etholiad Senedd 2026
Fel Arweinydd Ieuenctid, rydych chi eisoes yn chwarae rhan hanfodol wrth rymuso pobl ifanc ac mae cyfle newydd cyffrous bellach i’w helpu i fynd ymhellach fyth.
Diolch i gyllid gan Grant Ymgysylltu Democrataidd Llywodraeth Cymru, mae ScoutsCymru yn gwahodd Sgowtiaid Chwilota, aelodau’r Rhwydwaith ac Arweinwyr Ifanc i gynllunio a chyflwyno digwyddiadau hystingau lleol cyn etholiad Senedd 2026.
Digwyddiad holi ac ateb yw hysting lle gall y cyhoedd ofyn i ymgeiswyr etholiadol am y materion pwysicaf. Mae hwn yn gyfle gwych i bobl ifanc ddysgu am ddemocratiaeth, cysylltu â gwleidyddion, a chael pobl yn gwrando ar eu lleisiau.
Rydyn ni’n chwilio am grŵp o bobl ifanc o bob ardal Sgowtio yng Nghymru i gymryd rhan. Byddant yn derbyn hyfforddiant ar-lein ym mis Medi i roi’r sgiliau a’r hyder iddynt i arwain eu digwyddiad hystings eu hunain, a byddwch chi wrth eu hochr. Bydd pob grŵp hefyd yn cael cyllideb i’w rheoli, a fydd yn eu grymuso i gynllunio a chyflwyno pob agwedd ar eu digwyddiad, o’r dechrau i’r diwedd, yn eu hardal sgowtio.
Fel Arweinydd Ieuenctid, byddwch yn helpu i arwain, cefnogi ac ysbrydoli eich tîm lleol, gan sicrhau eu bod yn teimlo’n hyderus, yn barod a’u bod yn cael eu clywed. Byddwch hefyd yn derbyn hyfforddiant ar-lein sy’n canolbwyntio ar gyflwyno digwyddiadau hysting llwyddiannus, gan roi’r adnoddau a’r wybodaeth i chi arwain yn effeithiol. Mae’n gyfle gwych i gryfhau eich sgiliau mentora ac arweinyddiaeth eich hun wrth gael effaith wirioneddol ar ymgysylltiad dinesig pobl ifanc.
Bydd angen i chi fod ar gael ar gyfer hyfforddiant ar-lein naill ai ddydd Mawrth 23 Medi, neu ddydd Iau 25 Medi.
Barod i gefnogi eich tîm lleol?
Support young people to lead hustings ahead of the 2026 Senedd election
As a Youth Lead, you already play a crucial role in empowering young people and now there’s an exciting new opportunity to help them go even further.
Thanks to funding from the Welsh Government Democratic Engagement Grant, ScoutsCymru is inviting Explorer Scouts, Network members and Young Leaders to plan and deliver local hustings events ahead of the 2026 Senedd election.
A hustings is a Q&A-style event where the public can ask election candidates about the issues that matter most. This is a fantastic opportunity for young people to learn about democracy, connect with politicians, and have their voices heard.
We’re looking for a group of young people from every Scouting area in Wales to take part. They’ll receive online training in September to equip them with the skills and confidence to lead their own hustings event, and they’ll have you by their side. Each group will also be given a budget to manage, empowering them to plan and deliver all aspects of their event, from start to finish, in their scouting area.
As a Youth Lead, you’ll help guide, support and inspire your local team, making sure they feel confident, prepared and heard. You’ll also receive online training focused on delivering successful hustings events, giving you the tools and knowledge to lead effectively. It’s a great chance to strengthen your own mentoring and leadership skills while making a real impact on youth civic engagement.
You will need to be available for online training on either Tuesday 23rd September, or Thursday 25th September.
Ready to support your local team? Application form below.
Cymerwch yr awenau yn eich ardal chi cyn etholiad Senedd 2026
Ydych chi’n chwilfrydig am wleidyddiaeth? Eisiau cymryd rhan yn eich cymuned? Mae ScoutsCymru yn chwilio am Sgowtiaid Chwilota ac aelodau’r Rhwydwaith i drefnu digwyddiadau hysting lleol. Ac mae eich angen chi arnom ni!
Mae hysting yn sesiwn Holi ac Ateb fyw, wyneb yn wyneb lle gall pobl ofyn cwestiynau i wleidyddion am y materion pwysicaf. Gyda phobl 16 oed bellach yn gallu pleidleisio yng Nghymru, dyma’ch cyfle i arwain y sgwrs a sicrhau bod lleisiau ifanc yn cael eu clywed cyn etholiad Senedd 2026.
Rydyn ni’n chwilio am dîm o bobl ifanc o bob ardal Sgowtio yng Nghymru. Does dim angen unrhyw brofiad arnoch chi – dim ond angerdd a brwdfrydedd. Byddwch chi’n cael:
Hyfforddiant ar-lein ym mis Medi (popeth o wahodd ASau i redeg y digwyddiad)
Cyllideb i helpu gyda chostau (lleoliad, lluniaeth, hyrwyddo)
Cefnogaeth barhaus gan ScoutsCymru
Byddwch chi’n cynllunio’ch digwyddiad gyda phobl ifanc eraill yn eich ardal, gyda chefnogaeth bob cam o’r ffordd gan arweinwyr ieuenctid.
Bydd angen i chi fod ar gael ar gyfer hyfforddiant ar-lein naill ai ddydd Mawrth 23 Medi, neu ddydd Iau 25 Medi.
Barod i gymryd rhan?
Take the lead in your area ahead of the 2026 Senedd election
Are you curious about politics? Want to get involved in your community? ScoutsCymru is looking for Explorer Scouts and Network members to organise local hustings events. And we need you!
A hustings is a live, in-person Q&A where people can ask politicians questions about the issues that matter most. With 16-year-olds now able to vote in Wales, this is your chance to lead the conversation and make sure young voices are heard ahead of the 2026 Senedd election.
We’re looking for a team of young people from every Scouting area in Wales. You don’t need any experience – just passion and enthusiasm. You’ll get:
Online training in September (everything from inviting MSs to running the event)
A budget to help with costs (venue, refreshments, promotion)
Ongoing support from ScoutsCymru
You’ll plan your event with other young people in your area, supported every step of the way by youth leads.
You will need to be available for online training on either the Tuesday 23rd September, or Thursday 25th September
Ready to get involved?
Helpu pobl ifanc i arwain hystingau lleol ar gyfer etholiad Senedd 2026
Mae ScoutsCymru yn cynnig cyfle unigryw i Sgowtiaid Chwilota, aelodau’r Rhwydwaith ac Arweinwyr ifanc ledled Cymru gamu i fyd democratiaeth a gweithredu dinesig.
Diolch i arian gan Grant Ymgysylltu Democrataidd Llywodraeth Cymru, mae’r prosiect hwn yn gwahodd pobl ifanc i gynllunio a chyflwyno digwyddiadau hysting yn eu hardaloedd lleol, gan roi’r cyfle iddynt holi ymgeiswyr gwleidyddol cyn etholiad Senedd 2026.
Bydd pob grŵp yn derbyn hyfforddiant ar-lein ym mis Medi, a fydd yn trafod popeth o gysylltu ag ASau i gynllunio a hyrwyddo’r digwyddiad. Byddant yn cael cyllideb i helpu i dalu costau a chefnogi ymgysylltiad. Gall hynny fod yn archebu lleoliad, trefnu lluniaeth, neu annog cyfoedion i fynychu.
Mae hyn yn ymwneud â hyder, arweinyddiaeth a phrofiad o’r byd go iawn ac yn gyfle gwych i bobl ifanc wneud gwahaniaeth yn eu cymunedau ac ennill sgiliau a fydd yn para am oes.
Rhannwch y cyfle hwn gyda’ch Sgowtiaid Chwilota ac aelodau’r Rhwydwaith a’u hannog i gymryd rhan.
Help young people lead local hustings for the 2026 Senedd election
ScoutsCymru is offering Explorer Scouts, Network members and young Leaders across Wales a unique opportunity to step into the world of democracy and civic action.
Funded through the Welsh Government Democratic Engagement Grant, this project invites young people to plan and deliver hustings events in their local areas, giving them the chance to question political candidates ahead of the 2026 Senedd election.
Each group will receive online training in September, covering everything from contacting MSs to planning and promoting the event. They’ll be given a budget to help cover costs and support engagement. That may be booking a venue, organising refreshments, or encouraging peers to attend.
This is about confidence, leadership and real-world experience and a brilliant opportunity for young people to make a difference in their communities and gain skills that will last a lifetime.
Please share this opportunity with your Explorer Scouts and Network members and encourage them to take part.