Awdur: Sam Morris, Prif Swyddog Gwirfoddoli

Yn dilyn proses chwilio lwyddiannus ledled Cymru, mae’n bleser gan Carl Hankinson, Prif Wirfoddolwr y DU, gyhoeddi bod Jon Williams wedi’i benodi’n Brif Wirfoddolwr newydd Cymru.

Rydym yn croesawu Jon i Dîm Arwain y DU wrth iddo ymgymryd â’r rôl arweinyddiaeth bwysig hon ar gyfer UK Scouts a Scouts Cymru. Fel Prif Wirfoddolwr, bydd Jon yn arwain ac yn cynorthwyo Tîm Cymru, sy’n cynnwys ein Gwirfoddolwyr Arweiniol Rhanbarthol, Ardal a Dosbarth a thîm ehangach ScoutsCymru, gan weithio mewn partneriaeth â chydweithwyr sy’n aelodau o staff ScoutsCymru ac Ymddiriedolwyr i sicrhau bod ein 12 o Ardaloedd yng Nghymru yn cael eu harwain yn dda a’u grymuso i gyflawni strategaeth newydd UK Scouts y tu hwnt i 2025. Darllenwch fwy am Sgowtiaid yng Nghymru yma

Bydd Jon yn treulio’r ychydig fisoedd nesaf yn gweithio gyda Rhian Moore, Lowri Williams (Arweinydd Ieuenctid Cymru), Kirsty Palmer (Cadeirydd ScoutsCymru) a Kerrie Gemmell (Prif Weithredwr ScoutsCymru) yn paratoi i ymgymryd â’r rôl ac yn cwblhau gwahanol weithgareddau cynefino a throsiannol cyn iddo gymryd yr awenau oddi wrth Rhian Moore ar ddechrau mis Medi.

Siwrnai Jon gyda’r Sgowtiaid

Dechreuodd Jon ar ei siwrnai Sgowtio yn 6 oed yn ei grŵp lleol yn Llangennech, gan symud drwy bob adran. Pan oedd yn 18 oed, daeth Jon yn arweinydd Cybiau ar gyfer y grŵp, cyn iddo symud i fod yn Arweinydd Sgowtiaid yng ngrŵp Sgowtiaid Llanelli ac yna’n Wirfoddolwr Arweiniol Ardal ar gyfer Sir Gaerfyrddin. Yn ogystal â hyn, mae Jon wedi bod yn Arweinydd Digwyddiad ar gyfer Diwrnod Hwyl Cymru Gyfan y Cybiau am y 6 blynedd diwethaf ac yn ddirprwy arweinydd digwyddiad ar gyfer Gwersyll Sgowtiaid Cymru Gyfan.

Y Tu Allan i’r Sgowtiaid

Cafodd Jon, sy’n siaradwr Cymraeg, ei fagu yn Llanelli. Mae’n gweithio yn y gwasanaethau ariannol fel Rheolwr Ardal ac mae’n teithio ledled Cymru yn ymweld â’i dîm. Mae Jon yn briod â Cath ac mae ganddo 2 ferch, Chloe sy’n 20 oed a Ffion sy’n 18 oed, a chi Labrador o’r enw Buster. Mae Jon yn mwynhau treulio amser gyda’r teulu yn eu carafán ac mae wrth ei fodd yn gwrando ar gerddoriaeth ac yn mynd am dro.

“Dwi’n edrych ymlaen yn fawr at ymgymryd â rôl y Prif Wirfoddolwr a gweithio gyda Lowri, Kirsty a Kerrie i barhau i adeiladu presenoldeb cryf y Sgowtiaid yng Nghymru. Wrth i ni ddechrau ar daith strategaeth newydd y Sgowtiaid, does dim amser gwell i weithio gyda Scouts UK i sicrhau llwyddiant ScoutsCymru”

Jon Williams, Darpar Brif Wirfoddolwr Cymru

“Mae’n bleser gennyf benodi Jon Williams i Dîm Arweinyddiaeth y DU fel Prif Wirfoddolwr Cymru, gan adeiladu ar gyflawniadau Rhian dros yr wyth mlynedd diwethaf. Mae profiad Jon yn arwain Sgowtiaid yn Sir Gaerfyrddin a’i frwdfrydedd dros arwain timau llwyddiannus yn rhoi llawer o hyder i mi yn yr hyn y gall Sgowtio yng Nghymru ei gyflawni yn y dyfodol” 

Carl Hankinson, Prif Wirfoddolwr y DU

“Dwi’n edrych ymlaen at weithio gyda Jon i adeiladu cam nesaf Sgowtio yng Nghymru. Mae’r mudiad mewn lle gwych i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc, a dwi’n siŵr y byddwn ni’n gweld cynnydd pellach o dan arweinyddiaeth Jon.”

Kirsty Palmer, Cadeirydd ScoutsCymru

‘‘Dwi’n falch iawn bod Jon wedi cael ei benodi’n Brif Wirfoddolwr nesaf Cymru. Dwi’n edrych ymlaen at weithio ochr yn ochr â Jon i gyflawni ar ran pobl ifanc Cymru. Mae ein llwybrau wedi croesi eisoes yn y cyfnod byr rwyf wedi bod yn Wirfoddolwr Arweiniol Ieuenctid Cymru a dwi’n siŵr y bydd y brwdfrydedd rydyn ni’n ei rannu dros sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed yn gwneud hon yn bartneriaeth wych”

Lowri Williams, Arweinydd Ieuenctid Cymru

Author: Sam Morris, Chief Volunteering Officer

Following a successful search process across Wales, UK Chief Volunteer Carl Hankinson, is delighted to announce the appointment of Jon Williams as the new Chief Volunteer of Wales.

We welcome Jon to our UK Leadership Team as he takes up this important leadership role for UK Scouts and ScoutsCymru. As Chief Volunteer Jon will provide leadership and support to our Wales Team, comprised of our Regional, Area and District Lead Volunteers and wider ScoutsCymru team, working in partnership with ScoutsCymru staff colleagues and Trustees to ensure that our 12 Welsh Areas are well led and empowered to deliver our Skills For Life Strategy, and in particular as we transition to our new UK Scouts strategy beyond 2025. Read more about Scouts in Wales here

Jon will spend the next few months working with Rhian Moore, Lowri Williams (Wales Youth Lead), Kirsty Palmer (Chair of ScoutsCymru) and Kerrie Gemmell (Chief Executive of of ScoutsCymru) preparing to take on the role and completing various induction and transitionary activities ahead of a formal handover with Rhian Moore at the start of September.

Jon’s Scout journey

Jon started Scouting at the age of 6 at his local group in Llangennech, moving through each section, once turned 18 Jon became Cub leader for the group, following this Jon moved to be a Scout Leader at Llanelli Scout group before becoming the Area Lead Volunteer for Carmarthenshire. In addition to this Jon has been the Event Lead for All Wales Cub Funday for the past 6 years along with deputy event lead for All Wales Scout Camp.

Outside of Scouts

Jon grew up in Llanelli, a Welsh speaker, Jon works within the financial services as an Area Manger and travels across Wales visiting his team. Jon is married to Cath and has 2 daughters Chloe 20 and Ffion 18, and a Labrador dog Buster. Jon enjoys family time down at their caravan, and also enjoys listening to music and going out for walks.

“I am really excited to be taking on the role of Chief Volunteer, working with Lowri, Kirsty and Kerrie to continue to build a strong Scouting presence in Wales. As we begin the journey of Scouts next strategy there is no better time than to work together with Scouts UK for the success of ScoutsCymru”

Jon Williams, Chief Volunteer of Wales (designate)

“I’m excited to appoint Jon Williams to our UK Leadership Team as Chief Volunteer of Wales, building on Rhian’s achievements over the past eight years. Jon’s experience leading Scouts in Carmarthenshire and his passion for leading successful teams give me great confidence in what Scouting in Wales can achieve in the future” 

Carl Hankinson, UK Chief Volunteer

“I look forward to working with Jon to build the next phase of Scouting in Wales. The movement is in a great position to make a difference to the lives of young people, and I’m sure we’ll see further progress under Jon’s leadership.”

Kirsty Palmer, Chair of ScoutsCymru

‘‘I’m delighted that Jon has been appointed as the next Chief Volunteer for Wales. I’m looking forward to working alongside Jon to deliver on behalf of the young people of Cymru. Our paths have crossed already since my short time as Youth Lead Volunteer for Wales and I’m sure our shared enthusiasm for ensuring the voices of young people are heard, will make for a great partnership’

Lowri Williams, Wales Youth Lead

Yn y llun: Jon Williams, Darpar Brif Wirfoddolwr Cymru gyda (o’r chwith i’r dde) Kerrie Gemmill, Prif Weithredwr ScoutsCymru, Lowri Williams, Arweinydd Ieuenctid Cymru, a Kirsty Palmer, Cadeirydd ScoutsCymru - Jon Williams, Chief Volunteer of Wales (designate) pictured (from left to right) with Kerrie Gemmill, Chief Executive of ScoutsCymru, Lowri Williams, Wales Youth Lead, and Kirsty Palmer, Chair of ScoutsCymru