Efallai eich bod wedi gweld ambell awgrym am gyfleoedd rhyngwladol ScoutsCymru ar gyfer 2026 a 2027 ac heddiw mae’n bleser rhyddhau’r holl fanylion.
Bydd cyfle gan bobl ifanc o bob cwr o Gymru i gymryd rhan mewn anturiaethau rhyngwladol unwaith mewn oes, gan gynnwys alldaith Gwregys Sgowtiaid Fforio a ariennir gan TAITH i Bafaria yn 2026, Gwersyll Fforio Rhyngwladol “Stepping Stones” yn Iwerddon, a Jamborî Sgowtiaid y Byd yng Ngwlad Pwyl yn 2027.
Rydym hefyd yn agor ceisiadau ar gyfer arweinwyr sy’n oedolion i gefnogi’r alldeithiau hyn, yn ogystal ag Arweinwyr Patrôl ar gyfer Gwregys Fforio Bafaria. Mae’r rolau hyn yn hanfodol i sicrhau llwyddiant ein rhaglen ryngwladol a chefnogi pobl ifanc ar eu teithiau.
I gael eich ystyried ar gyfer unrhyw un o’r cyfleoedd hyn, rhaid i ymgeiswyr fynychu ein Penwythnos Blasu Rhyngwladol yn hydref 2025. Mae’r penwythnos hwn yn gyfle i ddysgu mwy am Sgowtio rhyngwladol, cwrdd ag eraill sydd â diddordeb, a chael blas ar yr antur sydd o’n blaenau a bydd hefyd yn gweithredu fel y penwythnos dethol ar gyfer pob lle ar y teithiau.
Mae’r cyfleoedd rhyngwladol hyn wedi’u cynllunio i roi’r hyder, y sgiliau a’r cysylltiadau byd-eang sy’n gymaint rhan o Sgowtio i bobl ifanc. Maent yn addo profiadau bythgofiadwy, o grwydro Bafaria i wersylla ochr yn ochr â miloedd o Sgowtiaid o bob cwr o’r byd.
📍 Mae’r manylion llawn, gan gynnwys cymhwysedd, costau, dyddiadau’r gwersyll paratoi, a sut i wneud cais, ar gael ar dudalennau gwe Cyfleoedd Rhyngwladol ScoutsCymru
Cyfleoedd Rhyngwladol ScoutsCymruYou may have seen a few hints about our ScoutsCymru international opportunities for 2026 and 2027 and today we’re excited to release all the details.
Young people from across Wales will have the chance to take part in once-in-a-lifetime international adventures, including a TAITH-funded Explorer Belt expedition to Bavaria in 2026, a “Stepping Stones” International Explorer Camp in Ireland, and the World Scout Jamboree in Poland in 2027.
We are also opening applications for adult leaders to support these expeditions, as well as Patrol Leaders for the Bavaria Explorer Belt. These roles are vital to ensuring the success of our international programme and supporting young people on their journeys.
To be considered for any of these opportunities, successful applicants must attend our International Taster Weekend in autumn 2025. This weekend is a chance to find out more about international Scouting, meet others who are interested, and get a taste of the adventure ahead and it will also act as the selection weekend for all places on the trips.
These international opportunities are designed to give young people the confidence, skills, and global connections that Scouting is all about. They promise unforgettable experiences, from exploring Bavaria to camping alongside thousands of Scouts from around the world.
📍 Full details, including eligibility, costs, prep camp dates, and how to apply, are available on the ScoutsCymru International Opportunities webpages.
ScoutsCymru International Opportunities