Cyn i mi gamu i lawr o’r rôl yma, hoffwn ddiolch o galon i bob gwirfoddolwr ledled Cymru.
Diolch am eich cefnogaeth, am yr ymddiriedaeth a roddoch ynof fi, am eich cyfeillgarwch, eich ymrwymiad, a’ch ymroddiad. Diolch am fod yno — dro ar ôl tro — a rhoi eich amser i Sgowtio ac i gefnogi pobl ifanc i fod yn anhygoel.
Pan gefais fy mhenodi saith mlynedd yn ôl, cadarnheais addewid y Sgowtiaid eto: gwneud fy ngorau, gwneud fy nyletswydd, a helpu pobl eraill.
Wnes i erioed ddychmygu y byddai’n gymaint o hwyl a mor anodd, y byddwn i’n teimlo cymaint o gefnogaeth neu, ar adegau, mor ynysig, y byddwn i’n teimlo mor falch o’r hyn rydym ni wedi’i gyflawni, neu mor bryderus y byddwn i’n siomi pobl.
Rydw i wedi ceisio arwain gydag empathi, gofal, a charedigrwydd bob tro. Nid oedd bob amser yn hawdd. Roedd adegau pan oedd yn teimlo’n llethol, pan nad oeddwn yn siŵr pa ffordd i droi.
Ond roedd rhywun bob amser i droi ato – rhywun a fyddai’n gwrando, yn arwain, neu’n gadael i mi siarad nes i mi ddod o hyd i lwybr ymlaen.
Before I step down from this role, I want to say a heartfelt thank you to every volunteer across Wales.
Thank you for your support, for the trust you placed in me, for your friendship, your commitment, and your dedication. Thank you for showing up — again and again — and giving your time to Scouting and to supporting young people to be amazing.
When I was appointed seven years ago, I reaffirmed the Scout promise: to do my best, to do my duty, and to help other people.
I never imagined it would be as much fun or as difficult, that I would feel so supported or, at times, so isolated, that I would feel so proud of what we have achieved, or so worried that I would let people down.
I’ve tried to lead with empathy, care, and kindness at every turn. It wasn’t always easy. There were times when it felt overwhelming, when I wasn’t sure which way to turn.
But there was always someone to turn to – someone who would listen, guide, or simply let me talk it through until I found a path forward.
Nawr, wrth fyfyrio, mae fy nghalon yn llawn tri pheth:
Synnwyr o bwrpas, o roi rhywbeth yn ôl, rhannu fy sgiliau i helpu eraill, a gadael y byd ychydig yn well — dyna pam y camais i’r rôl yma.
Ond dim ond hyn a hyn y gall un person ei wneud. Gyda’n gilydd, gydag eglurder ynghylch y rhan mae pob un ohonom ni’n ei chwarae, rydym ni wedi gwneud gwahaniaeth anhygoel.
Dros y saith mlynedd diwethaf rydym ni wedi bod trwy lawer.
Now, as I reflect, my heart is filled with three things:
That sense of purpose, of giving something back, sharing my skills to help others, and leaving the world a little better — is why I stepped into this role.
But one person can only do so much. Together, with clarity about the part each of us plays, we’ve made an incredible difference.
Over the last seven years we have been through a lot.
Efallai y bydd rhai ohonoch yn gwybod fy mod i hefyd wedi cael fy her bersonol fy hun wrth i mi oresgyn canser melanoma ddwywaith yn ystod y cyfnod hwn. Rwy’n rhannu hyn oherwydd rwy’n gwybod y bydd llawer ohonoch wedi wynebu eich heriau eich hun. Rhoddodd Sgowtio ffocws i mi.
I mi, roedd yn rhywbeth i ffwrdd o ysbytai a thriniaeth a rhoddodd rywbeth arall i mi siarad amdano y tu hwnt i brofion gwaed a sganiau CT. Roeddwn i’n gallu parhau i Sgowtio oherwydd y nifer o bobl wych o’m cwmpas a’u cefnogaeth, eu caredigrwydd a’u hewyllys da i adael i mi fod yn fi, i wrando ac i wneud yn siŵr fy mod i’n cofio gorffwys – diolch arbennig i Tracy, Rich, Edward a Daniel.
Mae Sgowtio yn dod â’r gorau allan ynom ac yn rhoi anturiaethau ein hunain i ni.
Mae bod yn Sgowt sy’n oedolyn yn fraint. Fel chi, dydw i ddim yn ei gymryd yn ysgafn. Ond rydw i wedi dysgu ei bod hi’n iawn camu’n ôl, cymryd seibiant, neu roi cynnig ar rôl newydd. Gobeithio fy mod wedi dangos nad oes angen degawdau o wasanaeth arnoch i fod yn Brif Wirfoddolwr – dim ond y sgiliau, y profiad a’r galon gywir ar gyfer y genhadaeth sydd o’n blaenau.
Mae gwirfoddoli’n cymryd dewrder, amynedd, a’r doethineb i oedi a chofio pam rydym ni’n ei wneud.
Pan fyddwn ni’n llawn egni, yn canolbwyntio, ac yn llawn llawenydd – mae pobl ifanc yn ffynnu, mae grwpiau’n tyfu, ac mae ysbryd y Sgowtiaid yn lledaenu fel tân gwyllt. Mae’n heintus. Mae’n ysbrydoledig.
Mae gwirfoddolwyr ledled Cymru, ym mhob cwr, ym mhob math o rôl, yn gwneud i bethau anhygoel ddigwydd.
Wrth weithio fel tîm, rydych chi’n rhoi rhywbeth rhyfeddol i’ch gilydd, ac i bobl ifanc: Sgiliau ar gyfer bywyd ar gyfer dyfodol gwell.
Gyda’ch help chi…
Maen nhw’n dysgu gwydnwch.
Maen nhw’n dysgu arweinyddiaeth.
Maen nhw’n dysgu llywio’r byd gyda hyder a charedigrwydd.
Nid yw dim o hynny’n digwydd ar ddamwain. Mae’n digwydd o’ch herwydd chi.
Ac nid yw’r effaith rydych chi’n ei chael bob amser yn weladwy. Ni fyddwch chi bob tro’n gweld y gwahaniaeth rydych chi’n ei wneud.
Ond rwy’n addo i chi, mae’n bwysig. Yn fwy nag y byddwch chi byth yn ei wybod.
Mewn byd a all deimlo’n gynyddol rhanedig, rydym ni’n paratoi pobl ifanc gyda’r sgiliau sydd eu hangen arnynt ar gyfer bywyd:
Rydym ni’n eu helpu i gamu ymlaen, nid camu’n ôl.
Rydym ni’n eu helpu i godi llais, nid aros yn dawel.
Rydym ni’n eu helpu i drio, methu, trio eto a llwyddo.
Dyna pam rydym ni’n gwneud yr hyn a wnawn. A dyna pam rydych chi’n dal ati.
Un o fy hoff rannau o’r rôl hon fu dathlu ein gwirfoddolwyr, enwebu a chyflwyno gwobrau, o flynyddoedd o wasanaeth i’r Bleiddiaid Arian, i ymddygiad clodwiw.
Nid gwobr yw hon. Ond dyma’r diolch mwyaf, mwyaf diffuant y gallaf ei gynnig.
Mae wedi bod yn faint ac yn anrhydedd eich arwain, eich cynrychioli, a cherdded ochr yn ochr â chi. Rwy’n gadael gyda diolchgarwch dwfn a chalon yn llawn atgofion gwerthfawr.
Saith mlynedd yn ôl, camais i’r rôl yma gyda gobaith ac uchelgais.
Fis Medi, rwy’n ei gadael gyda diolchgarwch a balchder.
Chi yw calon y Sgowtiaid.
Rydych chi’n ysbrydoli. Rydych chi’n cefnogi. Rydych chi’n llunio’r dyfodol.
A gyda’n gilydd, rydym ni wedi adeiladu rhywbeth yng Nghymru a fydd yn para’n hirach na ni i gyd – gwaddol o hyder, caredigrwydd a chymuned.
Felly, daliwch ati. Daliwch ati i roi. Daliwch ati i gredu ym mhŵer y Sgowtiaid.
Oherwydd pan fyddwn ni’n paratoi pobl ifanc gyda sgiliau ar gyfer bywyd,
Nid dim ond llunio eu dyfodol rydym ni – Rydym ni’n llunio dyfodol Cymru,
A dyfodol ein byd.
Diolch, gobeithio y cewch haf gwych. Diolch o galon, a hwyl fawr.
Some of you may know that I also had my own personal challenge as I overcame melanoma cancer twice during this time. I share this because I know lots of you will have faced your own challenges. Scouting gave me a focus.
For me it was something away from hospitals and treatment and gave me something else to talk about beyond blood tests and CT scans. I was able to keep on Scouting because of the many brilliant people around me and their support, their kindness and their good grace to let me be me, to listen and to make sure I remembered to rest – a special thank you to Tracy, Rich, Edward and Daniel.
Scouting brings out the best in us and gives us adventures of our own.
To be an adult Scout is a privilege. Like you, I don’t take it lightly. But I’ve learned that it’s okay to step back, to take a break, or to try a new role. I hope I’ve shown that you don’t need decades of service to be a Chief Volunteer — just the right skills, experience, and heart for the mission ahead.
Volunteering takes courage, patience, and the wisdom to pause and remember why we do it.
When we are energised, focused, and full of joy — young people thrive, groups grow, and the Scouting spirit spreads like wildfire. It’s infectious. It’s inspiring.
Volunteers across Wales, in every corner, in every kind of role, make incredible things happen.
Working as a team, you give each other, and young people, something extraordinary: Skills for life for better futures.
With your help…
They learn resilience.
They learn leadership.
They learn to navigate the world with confidence and kindness.
None of that happens by accident. It happens because of you.
And the impact you have isn’t always visible. You won’t always see the difference you make.
But I promise you, it matters. More than you’ll ever know.
In a world that can feel increasingly divided, we prepare young people with the skills they need for life:
We help them step up, not step back.
We help them speak out, not stay silent.
We help them try, fail, try again and succeed.
That’s why we do what we do. And that’s why you keep going.
One of my favourite parts of this role has been celebrating our volunteers, nominating and presenting awards, from years of service to Silver Wolves, to meritorious conduct.
This isn’t an award. But it is the biggest, most heartfelt thank you I can offer.
It’s been an honour and a privilege to lead you, represent you, and walk alongside you. I leave with deep gratitude and a heart full of treasured memories.
Seven years ago, I stepped into this role with hope and ambition.
This September, I leave it with gratitude and pride.
You are the heartbeat of Scouts.
You inspire. You support. You shape futures.
And together, we’ve built something in Wales that will outlast all of us – a legacy of confidence, kindness, and community.
So, keep going. Keep giving. Keep believing in the power of Scouts.
Because when we prepare young people with skills for life,
We’re not just shaping their future — We’re shaping the future of Wales, and the future of our world.
Thank you, have a great summer. Diolch o galon, and goodbye/ hwyl fawr.